SL(6)335 – Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cludo) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddibenion deddfwriaeth yr UE a ddargedwir i ddod â'r rheolaethau swyddogol sy'n ymwneud â lles anifeiliaid wrth eu cludo o dan yr un gyfundrefn â rheolaethau swyddogol eraill ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid. Bydd darpariaethau penodol sy'n ymwneud â rheolaethau swyddogol ar gyfer lles anifeiliaid wrth eu cludo a gafodd eu gohirio'n wreiddiol yn cael eu cychwyn gan reoliadau ar ddyddiad sydd i’w bennu. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi mai dyddiad cychwyn y darpariaethau hynny sy'n weddill yw 6 Ebrill 2023.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir i egluro rhwymedigaethau cludwyr a cheidwaid anifeiliaid, yn rhoi mwy o gyfrifoldeb ar drefnwyr teithiau mewn perthynas â pharatoi a chwblhau cofnodion teithiau, ac yn egluro'r broses ar gyfer cymeradwyo cofnodion teithiau.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Orchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Yn ôl y Memorandwm Esboniadol:

“Bydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cofnod taith i'r awdurdod cymwys yn cael ei egluro. Bydd yn ofynnol i'r trefnydd sicrhau bod copi o gofnod y daith, wedi'i gwblhau'n gywir, yn cael ei ddychwelyd i APHA [yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion] o fewn 30 diwrnodi'r daith gael ei chwblhau… [pwyslais wedi’i ychwanegu].

Fodd bynnag, mae paragraff 13(b) o'r Atodiad 2 newydd i Reoliad (EC) Rhif 1/2005, fel y'i hamnewidir gan reoliad 2, a'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, yn nodi bod yn rhaid i'r trefnydd sicrhau bod cofnod y daith, wedi’i gwblhau, yn cael ei ddychwelyd ddim hwyrach nag un mis i'r daith gael ei chwblhau. Mae Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 yn diffinio "Mis" fel mis calendr.

Byddem yn ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru egluro’r amserlen oddi mewn iddi y mae’n rhaid i drefnwyr teithiau sicrhau bod cofnod y daith, wedi’i gwblhau, yn cael ei gyflwyno i’r awdurdod cymwys ar ôl cwblhau’r daith.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Pwynt Craffu Teilyngdod 1:
Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i'r Pwyllgor am dynnu sylw at yr anghywirdeb ac wedi cywiro'r Memorandwm Esboniadol yn unol â hynny.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

16 Mawrth 2023